Amdanom Ni

Sefydlwyd y busnes gwreiddiol yn Aberaeron ym 1966 dan enw’r sylfaenwyr, A S Thomas a’i Feibion. Heddiw, rheolir y busnes gan Huw Thomas a Nest Evans (wyr a wyres y sylfaenwr).

Ym 1975, agorodd y busnes gangen fach ym Mhensarn, Caerfyrddin. Erbyn 1978, r’oedd y safle hwn yn rhy fach i ni a phenderfynwyd symud i Ffordd Abergwili. Rydym wedi bod yn ein cyfeiriad presennol ers 1997. Mae gan y Rheolwr Cyffredinol, Daniel Evans, ddegawdau o brofiad yn y busnes.

Mae’r busnes wedi bod yn arbenigo mewn peiriannau gardd o ansawdd ers y cychwyn ac mae wedi sicrhau enw da rhagorol am ei wasanaeth ar ôl gwerthu. Dyma brif fusnes y cwmni heddiw ac mae pob peiriant a werthir yn cynnwys y sicrwydd y bydd ein peirianwyr ni yn gwneud yr holl waith gwasanaethu neu gynnal a chadw.

Heddiw, y prif ryddfreintiau sydd gennym yw Kubota, Honda, Stihl, Viking a Husqvarna. Ni yw prif werthwr Kubota yn hen sir Dyfed (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion).

Mae ystod y cynnyrch yn cynnwys - tractorau gyriant dwy olwyn a phedair olwyn a pheiriannau torri glaswellt tro blaen, llifiau cadwyn, peiriannau torri llwyni, peiriannau tocio cloddiau, tractorau lawnt petrol a pheiriannau torri glaswellt sy’n cael eu gyrru, peiriannau rhwygo ac asglodi, peiriannau chwythu a sugno, peiriannau troi tir, generaduron ac offer arbenigol arall.